Skip to main content

End of Term Arrangements

Please see letter from Director of Education

Aled Evans

END OF TERM ARRANGEMENTS AT NEATH PORT TALBOT FOR PRIMARY AND SPECIAL SCHOOLS

 

 

END OF TERM ARRANGEMENTS AT NEATH PORT TALBOT FOR PRIMARY AND SPECIAL SCHOOLS

Pupils of a primary school age and those attending special schools will be moving to distance learning provision in NPT from Tuesday, 15th December, onwards. Schools will be delivering learning remotely and ensuring that pupils continue with their studies until the end of term on December 18th.

It is vitally important that all pupils engage with this on-line provision and we must emphasise that, on the advice of Public Health Wales, children and young people should not be allowed to meet with friends and congregate in public places. This remains a school week and all staff and pupils are expected to respect it as such.

This decision also allows families to pre-isolate for the Christmas break (e.g. not mixing outside of the household) for one incubation period (10 days). This is seen as an effective way of lowering the risk of infecting others. Self-isolation remains of paramount importance for anyone with COVID-19 symptoms.

Head teachers will be making local decisions regarding the support for vulnerable pupils who will be expected to attend according to the school’s advice and schools are advised to accommodate children of key workers. Transport will continue to be available to those pupils who currently qualify for home to school transport.

This is not an early Christmas holiday, and we request that pupils and parents do everything they can to minimise contact with others.

All pupils can make a difference to reducing the transmission of the virus by staying at home, engaging with their learning and by being responsible in their actions.

Those pupils attending school on Tuesday 15th – Friday 18th will be able to receive a meal or can bring a packed lunch to school. Those pupils in receipt of free school meals will be provided with a meal.

Pupils entitled to free school meals who are accessing their learning from home will be provided with a BACS payment as has happened previously.

TREFNIADAU DIWEDD TYMOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT AR GYFER YSGOLION CYNRADD AC ARBENNIG

Bydd disgyblion oed ysgol gynradd a’r rhai sy’n mynychu ysgolion arbennig yn symud i ddarpariaeth dysgu o bell yn CNPT o ddydd Mawrth, 15fed Rhagfyr, ymlaen. Bydd ysgolion yn cyflwyno dysgu o bell ac yn sicrhau bod disgyblion yn parhau â’u hastudiaethau tan ddiwedd y tymor ar Ragfyr 18fed.

Mae’n hanfodol bwysig bod pob disgybl yn ymgysylltu â’r ddarpariaeth ar-lein hon a rhaid inni bwysleisio, ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru, na ddylid caniatáu i blant a phobl ifanc gwrdd â ffrindiau a chasglu mewn mannau cyhoeddus. Mae hon yn parhau i fod yn wythnos ysgol a disgwylir i’r holl staff a disgyblion ei pharchu felly.

Mae’r penderfyniad hwn hefyd yn caniatáu i deuluoedd gyn-ynysu ar gyfer gwyliau’r Nadolig (e.e. peidio â chymysgu y tu allan i’r cartref) am un cyfnod deori (10 diwrnod). Mae hyn yn cael ei ystyried yn ffordd effeithiol o ostwng y risg o heintio eraill. Mae hunan-ynysu yn parhau i fod o’r pwys mwyaf i unrhyw un sydd â symptomau COVID-19.

Bydd penaethiaid yn gwneud penderfyniadau lleol ynghylch y gefnogaeth i ddisgyblion bregus y bydd disgwyl iddynt fynychu yn unol â chyngor yr ysgol ac fe gynghorir ysgolion i ddarparu ar gyfer plant gweithwyr allweddol. Bydd cludiant yn parhau i fod ar gael i’r disgyblion hynny sy’n gymwys ar gyfer cludiant cartref i ysgol ar hyn o bryd.

Nid gwyliau Nadolig cynnar mo hwn, a gofynnwn i ddisgyblion a rhieni wneud popeth o fewn eu gallu i leihau cyswllt ag eraill.

Gall pob disgybl wneud gwahaniaeth i leihau trosglwyddiad y firws trwy aros gartref, ymgysylltu â’u dysgu a thrwy fod yn gyfrifol yn eu gweithredoedd.

Bydd y disgyblion hynny sy’n mynychu’r ysgol o ddydd Mawrth 15fed tan ddydd Gwener 18fed yn gallu derbyn pryd o fwyd neu ddod â’u pecyn bwyd i’r ysgol. Bydd y disgyblion hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn cael pryd o fwyd.

Bydd disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ac sy’n cyrchu eu dysgu gartref yn cael taliad BACS fel sydd wedi digwydd o’r blaen.

 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.